SL(6)685 – Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025

Cefndir a diben

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 89(1) a (2) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”).

Mae adran 89(3) o’r Ddeddf yn galluogi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i ddarparu adnoddau ariannol i berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person neu gan gorff sy’n cydlafurio (fel y’i diffinnir yn adran 89(4) o’r Ddeddf) at ddiben darparu cwrs cymwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru neu ddarparu cwrs cymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y cyrsiau addysg uwch a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn wedi eu pennu at ddibenion adran 89(1) o’r Ddeddf, sy’n golygu eu bod yn gyrsiau cymwys at ddibenion yr adran honno.

Mae paragraff 1 o’r Atodlen yn nodi cyrsiau sy’n dod o fewn paragraff 1(g) neu (h) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (“Deddf 1988”). Mae cwrs yn dod o fewn paragraff 1(g) o Atodlen 6 os yw’n gwrs i baratoi at arholiad proffesiynol a bod safon yr arholiad hwnnw’n uwch na safon arholiadau safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol (“TAG Safon Uwch”) neu’r arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr (“BTEC”). Mae cwrs yn dod o fewn paragraff 1(h) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 os yw safon y cwrs (pa un a yw’r cwrs yn gwrs i baratoi at arholiad ai peidio) yn uwch na safon cyrsiau sy’n darparu addysg i baratoi at arholiadau TAG Safon Uwch neu’r arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Cenedlaethol y BTEC.

Mae paragraff 2 o’r Atodlen yn nodi cyrsiau ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y BTEC a nodir o fewn fframwaith prentisiaethau a ddyroddir o dan adran 19(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, sef fframwaith Cymreig cydnabyddedig, nad yw cydnabyddiaeth wedi ei thynnu’n ôl ohono o dan adran 19(2) o Ddeddf 2009.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir nad yw adran 89(3) o'r Ddeddf (a ddisgrifir uchod), y cyfeirir ati yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn, ac yn y Nodiadau Esboniadol, mewn grym yn llawn ar y dyddiad pan gafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud neu pan fyddant yn dod i rym. Mae paragraff 3.4 o'r Memorandwm Esboniadol yn dweud:

“Y bwriad yw dod ag adran 89(3), ynghyd ag is-adrannau (4) a (5) sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyrff sy'n cydlafurio, i rym yn llawn ar 1 Ebrill 2026 drwy Orchymyn sydd i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 148(2) o Ddeddf 2022 ("Gorchymyn arfaethedig 2026").”

Mae paragraff 3.8 o'r Memorandwm Esboniadol yn egluro rhesymeg Llywodraeth Cymru dros ddyddiad dod i rym cynharach y Rheoliadau hyn:

“Daw'r Rheoliadau i rym ar 25 Rhagfyr 2025. Bydd y dyddiad dod i rym hwn yn rhoi cyfle i Medr gynnwys cyfeiriad at ei swyddogaeth gyllido yn adran 89(3) wrth ddatblygu ei bolisi ar bwerau cyllido (fel sy'n ofynnol o dan adran 87 o Ddeddf 2022) cyn i adran 89(3) o Ddeddf 2022 ddod i rym.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodir nad ymgynghorwyd ar y Rheoliadau. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Nid oes gofyniad statudol i ymgynghori ar y Rheoliadau hyn, ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n rheolaidd â Medr ar ddatblygu'r Rheoliadau hyn, a hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid penodol mewn perthynas â'u diben.

Nod y Rheoliadau yw darparu sail statudol ddigonol i Medr ar gyfer darparu cyllid ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r mathau o gyrsiau addysg uwch sy'n cael eu cyllido ar hyn o bryd gan Weinidogion Cymru o dan swyddogaethau statudol y mae disgwyl iddynt gael eu diddymu.”

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Rhagfyr 2025